Fe gysylltodd Ffion Wyn Roberts gyda Heddlu Gogledd Cymru cyn iddi gael ei lladd, cadarnhaodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu heddiw.
Penderfynodd yr heddlu gyfeirio’r mater at y comisiwn ar ôl marwolaeth Ffion Wyn Roberts ym Mhorthmadog ym mis Ebrill.
Dyw hi ddim yn amlwg eto pam ei bod hi wedi cysylltu na chwaith sut wnaeth hi gysylltu. Fe fydd canlyniadau’r adroddiad yn cael eu cyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.
Mae Iestyn Davies, 52 oed, wedi ei gyhuddo ym mis Mehefin o ladd y ferch 22 oed.
Cafodd corff Ffion Wyn Roberts ei ganfod mewn camlas ar 10 Ebrill ar ôl iddi gael ei thagu a’i boddi.
Cafodd y ferch 22 oed ei gweld am y tro olaf am tua 3.00am yn gadael tafarn Yr Union yn Nhremadog ar fore Sadwrn 10 Ebrill.
Darlledwyd rhaglen Crimewatch ar 15 Mehefin oedd yn cynnwys apêl am wybodaeth am lofruddiaeth Ffion Wyn Roberts.