Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau nad oes gan y cyn gyfarwyddwr, Paul Retout, unrhyw beth i’w wneud gyda’r clwb erbyn hyn.
Mae’r Crusaders, sy’n rhannu’r Cae Ras gyda’r Dreigiau, hefyd wedi cadarnhau nad yw Paul Retout yn brif weithredwr arnyn nhw, chwaith.
Dywedodd cadeirydd Wrecsam, Ian Roberts, wrth bapur y Daily Post bod y cyn gyfarwyddwr wedi gadael y clybiau ar ôl i’r ddwy ochr gytuno ar hynny.
Yn ôl cofnodion y cofrestrydd cwmnïau, Companies House, fe ddaeth cysylltiad Paul Retout gyda chwmni Dragons and Wrecsam Village Ltd i ben ar 17 Gorffennaf.
“Does dim byd sinistr ynglŷn â hyn. Fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb,” meddai Ian Roberts.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam y byddai’r cefnogwyr yn croesawu’r newyddion. Doedd ganddyn nhw ddim y berthynas orau gyda’r cyn gyfarwyddwr.
Yn ôl y Daily Post fe fydd Paul Retout yn cymryd cyfnod sabothol dros y misoedd nesaf cyn dychwelyd i fyd gwaith.