Mae theatr hynaf Cymru a chapel sy’n cael ei adnabod fel ‘cadeirlan Anghydffurfiaeth’ y wlad, ymhlith dros 20 o adeiladau hanesyddol fydd yn elwa o grantiau i’w cynnal.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi £2.9 miliwn ar gyfer trawsnewid Neuadd Trecelyn, Caerffili, yn ganolfan dreftadaeth.

Cafodd yr adeilad yma ei adeiladu’n wreiddiol fel cofeb i ddynion a gafodd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’n cynnwys neuadd ddawnsio fwyaf De Cymru, ac awditoriwm Art Deco. Roedd yr adeilad wedi cyrraedd rownd derfynol rhaglen Restoration y BBC yn 2004.

Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad heddiw y byddai £39,300 hefyd yn cael ei roi ar gyfer y gwaith o adfer pen blaen adeilad Theatr y Savoy yn Nhrefynwy.

Bydd £100,000 hefyd yn cael ei roi ar gyfer adnewyddu adeiladwaith Capel y Tabernacl yn Nhreforys, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1.

Mae’r ddau ymhlith 24 o adeiladau sydd wedi elwa o £999,124 gan Lywodraeth Cymru.

Y lleill

Dyma’r adeiladau eraill fydd yn elwa:

• Eglwys Gredifael, Penmynydd, Llangefni, Ynys Môn – £78,400 ar gyfer atgyweirio adeiladwaith hanesyddol.

• Golden Grove (tŷ o’r cyfnod Elisabethaidd sy’n cynnwys tŷ arall o’r ail ganrif ar bymtheg) Llanasa, Sir y Fflint – £3,703 ar gyfer atgyweirio’r simneiau a’r talcenni.

• Wal yr Anifeiliaid, Stryd y Castell, Caerdydd – £62,922 tuag at sythu ac adfer y rheiliau metel a’r anifeiliaid carreg sydd ar y wal a gynlluniwyd gan William Burges.

• Porthordy Hywel Sele, Nannau, Dolgellau, Gwynedd – £31,800 tuag at waith i drwsio’r to, y simneiau, y ffenestri a’r drysau.

• Church Rooms, Aber-erch, Pwllheli, Gwynedd – £16,500 tuag at waith i adnewyddu’r adeilad yn llwyr a’i drosi’n gartref.

• Y Tŵr, Ffordd Nercwys, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint – £6,000 er mwyn trwsio’r gwaith cerrig.

• Capel Peniel, Trefriw, Conwy – £43,099 tuag at waith i drwsio niwed a wnaed gan ddŵr.

• Wal Gynnal yn Eglwys Fair, Mwynglawdd, Wrecsam – £9,000 tuag at waith i ailgodi ac ail-bwyntio’r wal.

• Y Goleuad (cyn warws), Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd – £35,000 tuag at raglen waith i drwsio gwedd allanol yr adeilad.

• Cefn Caer (Ysgubor a Stablau), Pennal, Machynlleth, Gwynedd – £70,000 i atgyweirio’r to.

• Eglwys Sant Cadog, Llancarfan, Bro Morgannwg – £60,000 tuag at waith i drwsio niwed a wnaed gan ddŵr.

• Eglwys Llaneirwg, Llaneirwg, Caerdydd – £10,000 tuag at waith i ail-doi’r gangell.

• Eglwys Sant Bartholomew, Llanofer, Sir Fynwy – £114,800 i atgyweirio adeiladwaith.

• Eglwys Llananno, Llananno, Llandrindod, Powys – £18,400 tuag at gywiro’r to a’r gwaith cerrig.

• Eglwys Cawrdaf Sant, Aber-erch, Gwynedd – £9,000 tuag at waith atgyweirio mewnol yn dilyn achos o bydredd sych.

• Eglwys Sant Tomos, Russell Road, y Rhyl, Sir Ddinbych – £54,000 ar gyfer atgyweirio gwaith cerrig.

• Eglwys Sant Cadog, Glyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot – £40,000 tuag at ail-doi ac atgyweirio cofebion ar y waliau a’r ffenestri lliw.

• Eglwys Sant Dyfan a Sant Teilo, Merthyr Dyfan, Bro Morgannwg – £8,000 tuag at waith ail blastro’r tu fewn.

• Eglwys San Pedr, Stryd yr Eglwys, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion – £40,000 tuag at waith i drwsio niwed a wnaed gan ddŵr.

• Eglwys San Ffraid, Ynysgynwraidd, Sir Fynwy – £130,000 i atgyweirio’r to, y systemau draenio a’r gwaith cerrig.

• Eglwys Llanedyrn, Pentref Llanedyrn, Caerdydd – £12,000 tuag at wyngalchu y tu allan i’r eglwys.

• Eglwys Crist, Prestatyn, Sir Ddinbych – £7,200 tuag at y gwaith o ail-bwyntio’r tŵr.