Mae prop Cymru a’r Gweilch, Duncan Jones wedi cymryd cam yn nes at ddychwelyd i chwarae ar ôl dechrau ymarfer at y tymor nesaf.

Mae Jones wedi bod ar yr ystlys ers mis Rhagfyr llynedd ar ôl torri asgwrn yn ei droed yn erbyn Munster yn Stadiwm Liberty.

Fe dreuliodd y prop chwe wythnos mewn plastr ond doedd ei anaf heb wella’n ddigonol felly bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth i ddatrys y broblem.

Ond mae Duncan Jones wedi cwblhau ei sesiwn rhedeg gyntaf heb unrhyw broblemau ac fe fydd yn gobeithio cryfhau eto dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae Duncan wedi bod yn gweithio’n galetach, a’r newyddion da yw ei fod wedi bod yn rhedeg ers pythefnos heb unrhyw ddrwg effaith amlwg,” meddai ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers.

“Fe fyddwn ni’n parhau i’w fonitro dros yr wythnosau diwethaf yn y gobaith y bydd o’n gallu dechrau ymarfer yn llawn cyn bo hir,” ychwanegodd Chris Towers.