Fe fydd Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent yn cyhoeddi cyfrol yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Grŵp o gymdeithasau lleol sy’n cyhoeddi ysgrifau yn ymwneud â hanes cymunedau lleol yw’r Fforwm ond dyw hi erioed wedi cyhoeddi yn Gymraeg cyn hyn.
Meryl Darkins o Dredegar sydd wedi golygu’r ysgrif Hanes Henry Hughes, a fagwyd yn Nhredegar ond a aeth i America yn 1851 yn ddeunaw oed a gweithio fel glöwr yno.
“Mae gan Henry stori ddifyr a chyffrous i’w hadrodd,” meddai Meryl Darkins wrth Golwg360.
Hanner can mlynedd ar ôl gadael am yr Unol Daleithiau ysgrifennodd Henry Hughes gofnod am ei fywyd cynnar a’i daith i America.
Tua hanner cant o flynyddoedd yn ddiweddarach fe ddaethpwyd o hyd iddo gan ei fab a’i drosi i’r Saesneg.
Yn ddiweddarach, fe gafodd Meryl Darkins ganiatâd gan deulu Henry Hughes i olygu a chyhoeddi’r copi Cymraeg gwreiddiol.
Y broses olygu
“Roedd yna dipyn o waith dehongli am ei bod hi wedi ei hysgrifennu mewn hen Gymraeg” meddai cyn dweud fod y broses wedi cymryd misoedd.
“Dw i heb newid gormod arno fe – dw i wedi’i adael o’r ffordd oedd e er mwyn gwneud cyfiawnder â’r gwaith.
“Mae ei deulu yn America wedi colli’r Gymraeg bellach, ond roedden nhw’n hapus iawn ein bod yn cyhoeddi’r gwaith yn y Gymraeg.”
Dywedodd bod yr iaith Gymraeg oedd Henry Hughes yn ei ddefnyddio pan adawodd Cymru yn 1851 i’w weld yn yr ysgrif.
Hanes Henry Hughes
“Doedd dim cefndir ffermio ganddo o gwbl. Ond roedd yn fentrus ac yn benderfynol tu hwnt…
“Roedd o’n ymneilltuwr ac yn grefyddol ac i fod yn onest – yn gul. Ond roedd e’n driw i’w reolau drwy gydol ei fywyd.
“Rydw i’n hapus bod pobl yn cael clywed hanes Henry Hughes a’i fod yn cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg. Mae am gael cynulleidfa ehangach na Thredegar nawr.