Mae twyllwr tlawd wedi ei garcharu am bum mlynedd heddiw am gynllun uchelgeisiol i werthu gwesty’r Ritz am £250 miliwn.

Roedd y gyrrwr loriau Anthony Lee, 49, o Goole, yn Nwyrain Swydd Efrog, eisoes wedi derbyn£1 miliwn ar ôl iddo addo gwerthu’r adeilad i ŵr busnes.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark heddiw, dywedodd y Barnwr Stephen Robbins ei fod o’n “gynllwyn cymhleth a gwarthus”.

Roedd Anthony Lee wedi argyhoeddi’r darpar brynwr Terence Collins ei fod o’n “gyfaill agos” i’r brodyr Barclay, sydd biau’r gwesty uchel ai barch yn Picadilly.

Ond doedd Syr Frederick a Syr David Barclay erioed wedi clywed am Anthony Lee a doedden nhw ddim yn gwybod dim am y cynllwyn.

Roedd Terence Collins dan yr argraff fod gan y brodyr “resymau cyfrinachol” dros geisio gwerthu’r Ritz trwy drydydd parti.

Honnodd Anthony Lee yn y llys bod y £1 miliwn oedd o wedi ei gael gan Terence Collins yn ymwneud gyda cytundeb cwbl wahanol.

Clywodd y llys bod Anthony Lee yn fethdalwr ac wedi ei rybuddio gan yr heddlu am ladrad.