Methodd y gwasanaethau cymdeithasol ar sawl achlysur i achub merch saith oed newynodd i farwolaeth, penderfynodd ymchwiliad heddiw.
Daw’r adroddiad gan Fwrdd Diogelu Plant Birmingham ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Khyra Ishaq yn ei chartref yn y dref.
Fe fu farw Khyra Ishaq o haint ym mis Mai 2008 ar ôl misoedd o gamdriniaeth gan ei mam a’i llysdad.
Ond dywedodd yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw y gallai’r awdurdodau fod wedi ei hatal hi rhag marw, a’u bod nhw wedi “colli golwg” arni.
Cafodd mam Khyra, Angela Gordon, 35, ei dedfrydu i 15 mlynedd yn y carchar ym mis Mawrth.
Cafodd ei chyn bartner, Junaid Abuhamza, 31, ei garcharu am hyd amhendant er mwyn diogelwch y cyhoedd. Bydd rhaid iddo dreulio o leiaf saith mlynedd a hanner yn y carchar.
Cafwyd y ddau yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.
Yn ystod yr achos llys daeth i’r amlwg bod Khyre wedi ei thynnu o’r ysgol ym mis Rhagfyr 2007 a’u chosbi’n gyson.
Roedd rhaid iddi sefyll tu allan yn yr oerfel am gyfnodau hir, a chael ei curo gyda chansen bambŵ.
Roedd ei mam a’i chariad wedi ei hatal hi rhag bwyta ac wedi rhoi bollt ar ddrws y gegin, oedd yn llawn bwyd.
Camdriniaeth
“Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad na fyddai’n hawdd rhagweld faint o gamdriniaeth yr oedd hi’n ei ddioddef, ond y byddai wedi bod yn bosib atal marwolaeth Khyra,” meddai cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Birmingham, Hilary Thompson.
“Mae’r adroddiad yn dangos bod sawl cyfle wedi eu methu, ac yn dweud y byddai rhannu gwybodaeth yn well rhwng cyrff allweddol wedi gallu arwain at ganlyniad gwahanol.”
Mae’r adroddiad 180 tudalen yn dweud bod aelodau o’r cyhoedd a staff yn ysgol Kyra wedi codi amheuon ynglŷn â’i lles mor bell yn ôl a mis Mawrth 2006.
Ond doedd y gweithwyr cymdeithas heb weithredu ar y wybodaeth. “Roedd yna sawl cyfle i’r gweithwyr proffesiynol ymyrryd ond wnaethon nhw ddim,” meddai’r adroddiad.