Mae rheolwr y Seintiau Newydd wedi dweud dylai’r garfan fod yn llawn hyder wrth wynebu Anderlecht heno.

Mae’r Seintiau Newydd yn haeddu eu lle yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ac yn fwy nac abl i faeddu Anderlecht, medden nhw.

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn wynebu cewri pêl droed Gwlad Belg ar y Cae Ras heno ar ôl curo Bohemians 4-1 dros ddau gymal yn y rownd ddiwethaf.

“Bydd yr ugain munud cyntaf yn bwysig iawn, er mwyn i ni gael gweld pa fath o dîm ydyn nhw,” meddai Mike Davies.

“Mae’n rhaid i ni eu parchu nhw a does dim rhaid i ni geisio gorfodi rywbeth i ddigwydd fel oedden ni yn erbyn yn erbyn y Bohemians yn yr ail gymal.

“Mae gan y garfan sawl rheswm i fod yn hyderus. Maen nhw’n haeddu eu lle yn y trydedd rownd.

“Mae’n mynd i fod yn achlysur arbennig i bawb sydd ag unrhyw beth i’w wneud a’r Seintiau Newydd a dyw’r hogiau ddim eisiau siomi neb.”

Dywedodd Mike Davies bod llwyddiant y Seintiau Newydd yn Ewrop eleni yn dangos ymroddiad pob aelod o’r garfan.
“Dydan ni ddim wedi cyrraedd mor bell a hyn oherwydd ymdrechion 11 chwaraewr yn unig. Mae pawb yn y garfan wedi gwneud eu gorau glas.”


‘Gwyliadwrus’

Mae rheolwr Anderlecht, Ariel Jacobs wedi dweud na fydd ei dîm yn cymryd y Seintiau Newydd yn ganiataol heno.

Fe achosodd clwb BATE Borisov o Belarus sioc dwy flynedd ‘nôl wrth ennill yn erbyn y clwb o Wlad Belg.

Wrth gofio hynny, mae rheolwr Anderlecht yn credu bod pob tîm yn haeddu parch yn y gystadleuaeth.

“Does yna ddim clybiau bach, mae pob tîm yn haeddu parch,” meddai Ariel Jacobs.

“Wrth guro Bohemians a sgorio tair gôl mewn ugain munud, maen nhw wedi dangos fod yn rhaid i ni fod yn ofalus.”