Mae gwylwyr y glannau Aberystwyth yn ymchwilio ar ôl i rywun ddwyn ffenestr o do caban arsylwi dros y penwythnos.
Mae’r achubwyr gwirfoddol yn dweud y bydd y diffyg ffenestr yn ei gwneud hi’n llawer anoddach defnyddio’r caban arlsywi er mwyn cynorthwyo pobol sy’n mynd i drafferth ar y môr.
“Mae’r tywydd wedi bod yn llawer mwy garw dros yr wythnosau diwethaf ac mae’r lladrad yn gwneud ein bywydau ni’n fwy anodd,” meddai Dylan Jones.
Doedd dim offer wedi ei ddwyn oherwydd eu bod nhw bob tro’n mynd a’r offer adre’ gyda nhw, meddai.
“Elusen yw’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub sy’n dibynnu ar gyfraniadau felly’n mae’n boen garw bod lleidr wedi bod yma,” meddai.