Mae’r Promatics wedi cadarnhau mai eu Gig ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy fydd eu gig olaf.

Mae’r band wedi penderfynu gwahanu am eu bod nhw bellach yn byw ar wasgar, meddai Daniel Williams, gitarydd a prif-leisydd y band, wrth Golwg360.

“Rydan ni wedi gwneud cymaint o betha’ hefo’n gilydd – gigs yn Llundain, Wakestock ac wedi chwarae mewn llawer iawn o lefydd cŵl,” meddai Daniel Williams.

Aelodau eraill y band yw’r drymiwr Dafydd Foxhall, y gitarydd bas Shon Thomas, a’r gitarydd synth Rhys Roberts.

Mae’r pedwar aelod o Ddyffryn Nantlle wedi bod yn chwarae yn y band ers y 5 mlynedd diwethaf ac wedi perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, Maes B Eisteddfod y Bala, Gŵyl Wakestock 2009 yn ogystal â Phenwythnos Mawr Radio 1 yn gynharach eleni.

“Fe ddylai Gig Maes B fod yn emosiynol,” meddai Daniel Williams. “Mae yna lot o bethau na fyddwn ni byth wedi cael eu gwneud pe na baen ni wedi ffurfio’r band.”

Rhyddhawyd EP Cyntaf y band, ‘100 Diwrnod Heb Liw’, yn 2009 ac yn ystod 2010 cafodd EP Saesneg Y Promatics, ‘Polar’, ei rhyddhau.

Dywedodd Daniel Williams fod Y Promatics wedi cael “bob cyfle” gan hyrwyddwyr a ffigyrau amlwg fel Huw Stephens a Bethan Elfyn yng Nghymru.

Ond roedd pellter aelodau’r band o’i gilydd yn golygu nad oedden nhw’n teimlo’n “rhan o’r sÎn” gerddorol yng Nghymru.

“Ro’ ni wastad yn teimlo ein bod ni allan ohoni. Neu ei bod hi’n anodd gwybod lle roedden ni’n ffitio i mewn,” meddai cyn egluro ei fod yntau a Rhys Roberts yn Nottingham a Dafydd Foxhall a Shon Thomas yn y Gogledd.

Datblygu

Yn y cyfamser, mae Daniel Williams wedi dechrau ysgrifennu ei ganeuon ei hun.

Y gobaith yw cael rhywbeth yn barod naill ai i’w lawr lwytho neu ar y radio erbyn y Nadolig.

“Mae bod yn rhan o fand yn golygu bod fy ysgrifennu wedi datblygu a gwella – gobeithio!” meddai.
Fe fydd Y Promatics yn chwarae gyda’i gilydd am y tro olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, nos Fercher, 4 Awst 2010.