Igam Ogam
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am raglenni plant fel Sali Mali, Super Ted, Sam Tân ac Igam Ogam yn dod i ben, cyhoeddwyd heddiw.
Mae Calon TV yn gwmni o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn rhaglenni plant, ac yn creu rywfaint o arlwy gwasanaeth Cyw S4C.
Ffurfiwyd Calon TV gan gyn reolwyr Siriol, y cwmni oedd yn gyfrifol am raglenni Wil Cwac Cwac a Super Ted yn yr 80au.
“Roedd cyfarwyddwyr Calon mewn trafodaethau ynglŷn â buddsoddiad arwyddocaol er mwyn helpu’r cwmni yn ei strategaeth wrth greu a datblygu hawliau eiddo deallusol ym maes teledu plant,” meddai llefarydd ar ran Calon wrth Golwg 360.
“Dyw’r buddsoddiad heb gyrraedd felly rydyn ni wedi dod i’r penderfyniad anodd i ddod a’r cwmni i ben o’n gwirfodd.
“R’yn ni wedi gweithredu’n gyflym er mwyn lleihau colledion ein cyflenwyr. Fe fydden ni hefyd yn gwneud popeth posib i sicrhau bod asedau’r cwmni werth cymaint â phosib.”
Cyfarwyddwr Calon TV yw Robin Lyons, cynhyrchydd cyfres wreiddiol Super Ted ar y cyd gyda Mike Young, a ddyfeisiodd y cymeriad.
Symuddodd Mike Young i Los Angeles a chreu’r cwmni Mike Young Productions, gan greu cartwnau He-man a Butt Ugly Martians.
Arhosodd Robin Lyons yng Nghymru a chreu Calon TV yn 2005.
Ymateb S4C
Dywedodd llefarydd ar ran S4C “nad yw’r sianel am wneud sylw am sefyllfa Calon ar hyn o bryd”.
“Serch hynny, rydym yn cydnabod cyfraniad y cwmni yn fyd-eang yn enwedig ym maes plant sydd yn allweddol bwysig i S4C,” meddai.