Peter Hain (Barry Batchelor/PA)
Mae gwleidyddion ac un a ffigurau amlwg yn y byd darlledu yng Nghymru wedi condemnio’r syniad y gallai S4C golli chwarter ei chyllid yn ystod y pedair blynedd nesa’.

Fe ymunodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, gyda’r Gweinidog Treftadaeth i alw am warchod arian y sianel ac mae cyn-bennaeth y BBC yng Nghymru, Geraint Talfan Davies, wedi dweud y byddai toriadau o’r fath yn gwneud niwed mawr i’r diwydiant darlledu.

Mae swyddogion a chyn-swyddogion cymdeithas y cwmnïau annibynnol hefyd wedi beirniadu’r peryg, gan ddweud y byddai’n gwneud difrod i’r sector.

Fe gododd yr ofnau ar ôl adroddiadau gan ohebydd darlledu’r Guardian bod yr Adran Dreftadaeth yn Whitehall yn ystyried torri 6% bob blwyddyn ar gyllid S4C tros y pedair blynedd nesa’. Fe fyddai hynny’n gyfanswm o £25 miliwn y flwyddyn erbyn diwedd y cyfnod.

‘Syfrdanol’

Roedd maint yr arbedion posib yn “syfrdanol”, meddai Geraint Talfan, sy’n Gadeirydd ar y Sefydliad Materion Cymreig. Fe fyddai’n newid byd darlledu yng Nghymru ac yn gwneud drwg i’r diwydiannau creadigol.

Os yw’r stori am y toriadau’n wir, fe fyddai’n golygu bod y diwydiant yng Nghymru wedi colli tua £50 miliwn ar ôl toriadau yn y BBC ac ITV hefyd, meddai ar Radio Wales.

“Rhaid cofio,” meddai, “mai S4C yw’r unig ddarlledwr Cymraeg o’i gymharu â thoreth o sianeli Saesneg.”

Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, fe fyddai toriadau o’r fath yn “ddinistriol”. Fe fyddai’n ddyrnod hefyd o ran swyddi a’r economi gyfan, meddai.

Llythyr

Ddoe, fe ddatgelodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, ei fod eisoes wedi sgrifennu at yr Adran Dreftadaeth yn Llundain yn holi am doriadau o £2 filiwn sydd eisoes wedi eu gwneud yng nghyllideb S4C.

Roedd eisiau sicrwydd na fyddai’r toriadau’n mynd yn groes i’r hyn oedd yn y Ddeddf Ddarlledu yn 1990.