Mae’r Eglwys Gatholig yn yr Eidal wedi galw ar unrhyw offeiriad hoyw sy’n arwain “dau fywyd” i gyfaddef a gadael yr eglwys.
Daw hyn ar ôl i gylchgrawn Panorama’r wlad gyfweld â thri o offeiriad hoyw, a’u dilyn nhw i dafarndai a chlybiau hoyw.
Roedd un o’r offeiriaid wedi dathlu’r Offeren yn y bore cyn gyrru dau ddyn hoyw yr oedd o wedi eu cyflogi i fynd i barti’r noson gynt i’r maes awyr.
Dywedodd esgobaeth Rhufain na ddylai’r offeiriaid hoyw fod wedi eu hordeinio yn y lle cyntaf ac nad oedden nhw’n cynrychioli’r 1,300 o offeiriad eraill yn yr esgobaeth.
“Does neb yn eu gorfodi nhw i aros yn offeiriad,” meddai’r esgobaeth. “Mae’n rhaid iddyn nhw ddatgelu pwy ydyn nhw.
“ Dydyn ni ddim eisiau gwneud unrhyw niwed iddyn nhw, ond dydyn ni ddim yn gallu derbyn eu hymddygiad nhw, sy’n gwneud i bawb arall edrych yn ddrwg.”
Mae’r Eglwys Gatholig yn gwrthwynebu unrhyw weithredoedd gwrywgydiol ac wedi dweud y bydden nhw’n gwneud mwy i gael gwared ag offeiriaid hoyw.
Yr unig eithriad yw offeiriad sydd wedi dioddef o “broblem dros dro” ond sydd wedi rhoi’r gorau i fod yn wrywgydwyr ers o leiaf tair blynedd.
(Llun: Clawr cylchgrawn Panorama)