Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi beirniadu rhyddhau bomiwr Lockerbie heddiw gan ddweud fod y penderfyniad yn “anghywir”.

Roedd yn ysgrifennu at seneddwyr yn yr Unol Daleithiau sy’n cynnal ymchwiliad i honiadau fod BP wedi libio Llywodraeth Prydain i ryddhau Abdelbaset al-Megrahi.

Ychwanegodd William Hague ei fod o’n “gywir yn gyfreithiol a chyfansoddiadol” mai penderfyniad i Lywodraeth yr Alban oedd ryddhau Abdelbaset al-Megrahi.

Dywedodd bod yr ysgrifennydd tramor ar y pryd, Jack Straw, a’r cwmni olew BP, wedi cynnal sawl trafodaeth cyn cytuno i gyfnewid carcharorion gyda Libya yn 2007.

Abdelbaset al-Megrahi yw’r unig ddyn sydd erioed wedi ei gael yn euog o’r bomio laddodd 270 o bobol yn 1988.

Cafodd ei ryddhau fis Awst diwethaf ar ôl i ddoctoriaid awgrymu mai dim ond tri mis oedd ganddo i fyw. Ond yn ôl adroddiadau mae o’n dal i fyw gyda’i deulu yn Tripoli.

‘Dim tystiolaeth’

“Roedd yna dair trafodaeth rhwng BP a Jack Straw a’i swyddfa rhwng mis Hydref a Thachwedd 2007,” meddai William Hague.

Roedd Libya wedi dweud wrth BA na fydden nhw’n dod i gytundeb ynglŷn â chwilio am olew yn y wlad pe na bai Llywodraeth Prydain yn cytuno i ryddhau’r carcharorion.

Roedd BP eisiau tynnu sylw Llywodraeth Prydain at hyn, meddai William Hague. Roedd hynny’n “gwbl arferol a chyfreithlon”.

Ond roedd Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Kenny MacAskill, a benderfynodd ryddhau Abdelbaset al-Megrahi, yn gwrthwynebu’r cytundeb cyfnewid carcharorion gyda Libya.

“Does yna ddim tystiolaeth sy’n awgrymu bod BP wedi chwarae rhan ym mhenderfyniad Llywodraeth yr Alban i’w ryddhau ar sail tosturi yn 2009,” meddai William Hague.

Ddoe dywedodd Jack Straw na fyddai’n rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor y Senedd yn yr Unol Daleithiau, am nad oedd ganddo “unrhyw beth i’w wneud” gyda’r penderfyniad.

Dywedodd Kenny MacAskill na fyddai ef chwaith yn rhoi tystiolaeth am nad oedd ganddo “unrhyw wybodaeth” ynglŷn â lobio gan BP er mwyn sicrhau cytundeb olew gyda Libya.