Mae llai nag 1% o’r arian sy’n cael ei wario ar y gwaith adeiladu ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 wedi dod i Gymru, yn ôl y llywodraeth.
Mae cwmnïau yn Gymru wedi ennill gwerth £573,678 o gontractau adeiladu. Mae cwmnïau o Loegr wedi cael £5.1 biliwn, a chwmnïau o’r tu allan i Brydain wedi cael £12m.
Mae’r Alban wedi cael £22m a Gogledd Iwerddon wedi cael £17m, yn ôl ffigyrau Adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan.
Dywedodd AS Arfon, Hywel Williams, bod y ffigyrau yn profi na fydd y Gemau Olympaidd o unrhyw fudd i Gymru.
“Mae yna lot fawr o arian wedi ei gymryd o Gymru a’i roi i’r Gemau Olympaidd,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post. “Ein siâr teg fyddai rywbeth fel £250m.
“Fe allai cwmnïau Cymru fod wedi cyflogi miloedd o bobol gyda’r arian yna a gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru yn ystod cyfnod anodd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth nad oedd y ffigyrau terfynol ynglŷn â gwario ar y Gemau Olympaidd yn hysbys a bod yna werth £275m o gontractau ar gael o hyd.