Roedd yna gyffro ym maes awyr Heathrow ar ôl i weithwyr diogelwch ddod o hyd i ddryll ffug oedd yn eiddo i aelod o un o deuluoedd brenhinol y Dwyrain Canol.

Daethpwyd o hyd i’r tegan mewn bag oedd ar ei ffordd o Baris. Galwodd y gweithwyr diogelwch yr heddlu gan feddwl ei fod o’n ddryll go iawn.

Cafodd y bag ei roi yn ôl i’w berchennog unwaith y sylwodd yr heddlu nad oedd o’n ddryll go iawn, meddai Scotland Yard heddiw.

Roedd y teulu brenhinol wedi cyrraedd o Faes Awyr Charles de Gaulle, ac nid yw’n amlwg eto sut oedd y dryll ffug wedi ei roi ar yr awyren heb i neb sylwi arno.

Daethpwyd o hyd i’r bag, oedd wedi ei adael ar yr awyren drwy gamgymeriad, ar ôl i’r teithwyr adael Heathrow.