Mae un o aelodau mwyaf blaenllaw’r Ceidwadwyr wedi ei glywed yn gwneud hwyl ar ben y glymblaid yn San Steffan.
Roedd David Davis wedi cyfeirio at y bartneriaeth rhwng y Prif Weinidog David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg fel y “Brokeback Coalition”.
Dywedodd fod syniad David Cameron ynglŷn â’r ‘Gymdeithas fawr’ yn ymdebygu i rywbeth y byddai Tony Blair wedi meddwl amdano, ac mai esgus yw’r cwbl er mwyn lleihau maint y wladwriaeth.
Yn ôl papur newydd y Financial Times daeth sylwadau David Davis yn ystod cinio preifat yn nhafarn y Boot and Flogger yn Southwark, Llundain, dydd Iau.
Roedd ‘Brokeback Coalition’ yn gyfeiriad at y ffilm ‘Brokeback Mountain’ sydd yn ymdrin â pherthynas hoyw rhwng dau gowboi.
Roedd David Davis yn un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn dilyn ymddiswyddiad Michael Howard yn 2005. Daeth yn ail i David Cameron.
Roedd yn aelod o gabinet yr wrthblaid am gyfnod ond ymddiswyddodd fel AS yn 2008 er mwyn tynnu sylw at y ffordd yr oedd hawliau sifil yn cael eu hanwybyddu ym Mhrydain.
Enillodd ei sedd yn ôl ond anwybyddodd y cyfryngau’r ornest a dydi o heb ddychwelyd i’r Cabinet ers hynny.
Y sylwadau
“Os ydach chi’n dechrau son am wladwriaeth lai, mae pobol yn meddwl mai Attila yr Hun ydach chi. Os ydych chi’n siarad am Gymdeithas Fawr mae pobol yn meddwl mai’r Fam Teresa ydach chi,” meddai wrth ei westeion.
Cwynodd hefyd bod y Llywodraeth yn pryderu gormod am “ddelio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd ar y cyfan y tu mewn i’r glymblaid”.
Ond doedden nhw ddim yn gwneud digon o ymdrech i ddelio gyda’r Blaid Geidwadol, a bod “y rhan fwyaf o’r rheini y tu allan i’r glymblaid”.