Mae troellwr Morgannwg, Robert Croft wedi cipio ei filfed wiced dosbarth cyntaf dros y sir Gymreig.
Fe gyrhaeddodd y Cymro’r garreg filltir ar ail ddiwrnod gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caerlŷr yn Abertawe heddiw.
Roedd angen tair wiced arall ar Croft cyn i’r gêm ddechrau ddoe, ac fe aeth ‘mlaen i gipio wicedi Matthew Boyce a Jaques du Toit cyn cymryd wiced Wayne White.
Robert Croft yw’r pedwerydd chwaraewr yn hanes Morgannwg i gyrraedd y garreg filltir yma. Mae Don Sheperd, Jack Mercer a Johnnie Clay hefyd wedi cipio dros fil i wicedi.
Ond Croft yw unig chwaraewr Morgannwg sydd erioed wedi cipio mil o wicedi yn ogystal â sgorio dros 10,000 o rediadau i’r sir.
Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers i Peter Sainsbury gwblhau’r ddwy garreg filltir i Hampshire yn 1972.