Mae Palas Buckingham wedi tynnu gwahoddiad arweinydd plaid y BNP i barti yno yn ôl.

Roedd Nick Griffin wedi cael y gwahoddiad i barti gardd gyda’r Frenhines heddiw, yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Ond yn ôl y palas, ni fydd yn cael mynd gan ei fod wedi ceisio elwa’n wleidyddol ar y gwahoddiad drwy glochdar yn y cyfryngau.

Roedd o wedi dweud yn gyhoeddus fod arwyddocâd gwleidyddol i’r gwahoddiad, ac y byddai yno ar ran cefnogwyr y BNP.

Yn ôl Palas Buckingham mae pob ASEau wedi eu gwahodd, beth bynnag eu daliadau gwleidyddol.

‘Hawl’

Ymatebodd Nick Griffin gan ddweud fod y penderfyniad yn “warthus” ac yn “wrth Brydeinig,” a nad oedd unrhyw un wedi dweud wrtho nad oedd yn cael siarad â’r cyfryngau.

Honnodd fod Llywodraeth Prydain wedi rhoi pwysau ar Balas Buckingham i’w atal rhag mynd, a bod ganddo fandad gwleidyddol gan filiwn o bobol, sy’n rhoi’r “hawl” iddo i fynychu.

Mae mudiad Unite Against Fascism wedi croesawu’r penderfyniad. Roedden nhw wedi dweud fod gwahodd y BNP i ddigwyddiadau fel hyn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’w blaid.

Mae’r BNP yn credu mewn atal pobol dramor rhag symud i mewn i Brydain a, tan yn ddiweddar, roedd yn rhaid i aelodau fod yn wyn.

Cadarnhaodd Palas Buckingham fod gwahoddiad i ASE arall y BNP, Andrew Brons, yn parhau i fod yn agored iddo.