Mae Tottenham am geisio arwyddo Craig Bellamy ar fenthyg oddi ar Man City tan ddiwedd y tymor.
Ar hyn o bryd mae ymosodwr Cymru ar daith Man City yn yr Unol Daleithiau er mwyn paratoi ar gyfer y tymor newydd.
Ond mae rheolwr y clwb, Roberto Mancini wedi dweud bod Bellamy yn rhydd i adael, ar ôl i David Silva o Valencia ymuno gyda’r clwb o Fanceinion.
Mae Mancini a Bellamy wedi gwrthdaro sawl gwaith ers i’r Eidalwr olynu Mark Hughes yn reolwr ar Man City.
Mae’n debyg bod Bellamy yn barod i symud ‘mlaen hefyd wrth i’r hyfforddwr anelu i arwyddo sawl ymosodwr newydd i gymryd ei le.
Mae Bellamy yn awyddus i chwarae’n gyson, ac fe allai Spurs gynnig hynny iddo yn ogystal â’r cyfle i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.