Mae parodi Cymreig o un o ganeuon enwocaf y gantores Alicia Keys wedi denu dros gan mil o wylwyr ar wefan YouTube.

Mae dros 120,000 o bobl wedi gwylio’r fersiwn doniol am Gasnewydd o’r gan Empire State Of Mind gan Jay-Z & Alicia Keys.

Dim ond ers deuddydd mae’r fideo Newport (Ymerodraeth State of Mind) gan Alex Warren and Terema Wainwright ar y wefan.

Mae o eisoes wedi denu canmoliaeth gan Rob Brydon a Lily Allen a sylwi yn y cyfryngau cenedlaethol.

Mae’r fideo, sy’n dathlu Plaid Cymru, y Cynulliad, a’r ganolfan siopa lleol, ar gael i’w weld o dan y categori fideos mwyaf poblogaidd ar YouTube.