Mae is-gapten Abertawe, Alan Tate wedi dweud bod penodiad Brendan Rodgers fel rheolwr newydd y clwb wedi bod yn hwb mawr i’r garfan.

Dim ond wythnos mae Rodgers wedi bod yn y swydd ond mae Tate eisoes wedi ei ganmol.

“Hyd yn hyn mae’r ymarferion wedi bod o safon uchel. R’yn ni wedi mwynhau ac mae’n wahanol iawn i’r tymor diwethaf,” meddai Tate.

“Mae popeth yn fyrrach gyda mwy o awch ac mae yna fwy o bwyslais ar ffitrwydd pêl droed, rhywbeth sydd ei angen arnom ni.

“Roedd pob un o’r ymarferion yn y tair sesiwn gyntaf yn newydd i mi. Doeddwn i erioed wedi’u gwneud o’r blaen ac fe wnes i fwynhau.

“Yn amlwg mae o wedi dod a sawl peth y mae wedi dysgu mewn 15 mlynedd o hyfforddi i Abertawe, gan gynnwys ei brofiadau o dan bobl fel Jose Mourinho yn Chelsea.”

“Mae o’n sicr wedi rhoi hwb i bawb. Mae’r bois wedi ymarfer yn dda ac rydw i’n obeithiol ar gyfer y tymor newydd.”

Mae’r chwaraewyr wedi creu argraff fawr ar y rheolwr newydd, sy’n dweud fod yna lawer o ddawn yn y garfan.

“Rydw i wedi gweld digon chwarae o safon yma. Mae yna dalent amlwg yn y garfan,” meddai Brendan Rodgers.

“Maen nhw’n chwarae gyda charisma ac angerdd yma. Maen nhw wedi eu trwytho yn hynny dros y blynyddoedd diwethaf ac rydach chi’n gallu gweld hynny yn yr ymarferion.”