Bydd Non Evans yn creu hanes fel y fenyw gyntaf i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad mewn tri o chwaraeon gwahanol.

Mae hi’n un o dair menyw fydd yn cystadlu dros Gymru yn y tîm reslo.

Mae’r chwaraewraig rygbi rhyngwladol eisoes wedi cystadlu yn y campau codi pwysau a jiwdo.

Fe fydd hi hefyd yn cystadlu gyda thîm rygbi menywod Cymru yng Nghwpan y Byd mis nesaf.

“Mae’n ddarn bach o hanes ac rwy’n falch iawn o’r hyn ydw i wedi’i gyflawni,” meddai Non Evans.

“Rydw i wedi ennill dwy fedal arian yn y gorffennol felly rydw i’n gobeithio mai’r cam nesaf fydd ennill aur yn Dehli.”

Fe fydd Kate Rennie o Gaerdydd a Sarah Connolly o Ben-y-bont yn ymuno gyda Non Evans yn y tîm.

Dewis y dynion

Mae pencampwr reslo cenedlaethol Cymru, Brett Hawthorn wedi cael ei ddewis ymysg saith o reslwyr eraill i gynrychioli dynion Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae Hawthorn, o Wrecsam ar fin symud i’r Unol Daleithiau i ddechrau ar ei ysgoloriaeth mewn reslo ym Mhrifysgol Campbellsville yn Kentucky.

Mae’r Cymro 19 oed wedi bod yn cystadlu ar y lefel hŷn er ei fod yn dal yn cael ei ystyried yn reslwr iau tan ei fod yn 21 oed.

“Rydw i wrth fy modd i gael fy newis yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Mae o wedi gwireddu breuddwyd,” meddai Brett Hawthorn.

Fe fydd Hawthorn yn ymuno â’r reslwr profiadol Craig Pilling a gafodd ei enwi’n bencampwr Prydain yn 2006.

Mae Kiran Manu o Wrecsam, Damion Arzu o’r Drenewydd hefyd yn y garfan.