Cwmnïau ceir Japan sy’n gwneud y moduron mwyaf dibynadwy, yn ôl arolwg gan gwmni Which?

Roedd wyth car o’r wlad ar restr o’r deg car mwyaf dibynadwy’r arolwg.

Daihatsu oedd ar frig y tabl gyda sgôr o 86.8%. Roedd Honda yn ail, Toyota yn drydydd a Mazda yn bedwerydd.

Land Rover oedd ar waelod y tabl gyda sgôr o 67.5%.

Roedd yr arolwg wedi holi mwy nag 64,000 o berchnogion ceir. Porsche oedd y car mwyaf poblogaidd o ran boddhad y cwsmer, gyda Daihatsu yn ail.

MG oedd ar waelod y tabl, gyda Vauxhall, Peugeot, Chrysler a Renault.

“mae ein hymchwil yn dangos bod gwahaniaeth mawr rhwng y ceir gorau a’r rhai gwaethaf,” meddai Prif Weithredwr Which?, Peter Vicary-Smith.