Mae teiffŵn arall wedi taro deheubarth China wrth i’r wlad ddygymod â glaw trwm a gwyntoedd a llifogydd sydd eisoes wedi lladd 701 o bobol yn y wlad eleni.

Mae 347 o bobol hefyd ar goll yn dilyn y stormydd, yn ôl adroddiadau.

Does dim sôn fod unrhyw anafiadau wedi digwydd yn sgil Teiffŵn Chanthu, ond mae wedi achosi glaw trwm ac mae gwyntoedd wedi cyrraedd 70 mya.

Mae stormydd difrifol wedi taro’r ardal ers mis Mehefin, gan achosi llifogydd a thirlithriadau.

Dyma’r stormydd gwaethaf ers i 4,000 o bobol gael eu lladd yn China yn ystod tywydd garw yn 1998.