Ni fydd swyddog terfysg yn heddlu’r met yn cael ei erlyn ar ôl iddo gael ei ffilmio yn gwthio dyn fu farw yn ddiweddarach i’r llawr yn ystod protestiadau’r G20.

Dywedodd Keir Starmer, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, nad oedd yna “siawns go iawn y byddai’n cael ei ddedfrydu”.

Cafodd yr heddwas ei ffilmio yn gwthio Ian Tomlinson i’r ddaear ar 1 Ebrill 2009. Fe fu farw’r dyn 47 oed o waedu mewnol ychydig yn ddiweddarach.

Roedd yr heddlu wedi dweud wrth deulu Ian Tomlinson, gan gynnwys gwraig a naw o blant, ei fod o wedi marw o drawiad ar y galon ar ôl cael ei ddal ynghanol y dyrfa o brotestwyr.

Ychwanegodd Keir Starmer nad oedd “unrhyw gytundeb ymysg yr arbenigwyr meddygol ynglŷn â beth oedd gyfrifol am farwolaeth y gwerthwr papurau newydd.

Roedd o wedi “cymryd amser hir” i Wasanaeth Erlyn y Goron “archwilio’r holl dystiolaeth feddygol yn ofalus a chynnal cyfres o gyfarfodydd gydag arbenigwyr”.

Dywedodd ymgyrchwyr y bydden nhw’n protestio tu allan i New Scotland Yard i fynegi eu hanhapusrwydd gyda’r penderfyniad, heddiw.

Mae hi hefyd yn bum mlynedd ers marwolaeth Jean Charles de Menezes, gafodd ei saethu yn farw gan heddlu oedd yn credu ei fod o’n derfysgwr.