Mae Llywodraeth Cymru wedi cael grymoedd deddfu llawn dros faterion tai.

Cafodd y grymoedd eu datganoli o San Steffan i Fae Caerdydd ar ôl i’r Gorchymyn Deddfu – neu eLCO – gael cydsyniad Brenhinol neithiwr.

Mi fydd y grymoedd yn galluogi’r Llywodraeth i ganiatáu cynghorau lleol i atal hawl tenantiaid i brynu tai cyngor.

Ac fe fydd mesur yn cael ei gyflwyno yn yr hydref i alluogi’r awdurdodau i ofyn am ganiatâd gweinidogion am yr hawl yma mewn ardaloedd sydd â phrinder tai fforddiadwy.

Fe fydd y mesur hefyd yn rhoi grymoedd eang i’r Llywodraeth i ymyrryd yn y broses o ddarparu tai fforddiadwy.

Croesawu

Mae sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer materion yn ymwneud a thai a digartrefedd wedi croesawu’r datblygiad.

Mae’n “newyddion gwych,” meddai cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, fod y Llywodraeth wedi cael y grymoedd “sydd eu hangen” i fynd i’r afael “yn effeithiol” â digartrefedd ac anghenion tai pobl Cymru.

“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn gamp wirioneddol, yn enwedig ar ôl proses hir ac anodd,” meddai.

“Mae effaith y dirwasgiad a’r toriadau difrifol mewn gwariant a gafodd eu cyhoeddi yng nghyllideb ddiweddar y DU yn debygol o adael llawer mwy o bobl yng Nghymru mewn sefyllfa ariannol anodd ac yn wynebu perygl digartrefedd.

“O leiaf nawr mae gyda ni’r sicrwydd bod gan Lywodraeth Cymru fwy o gyfle a hyblygrwydd i gymryd camau i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau tai yn seiliedig ar anghenion penodol pobl Cymru.”

‘Anghenion’

“Mae’n bwysig” fod penderfyniadau ynglŷn â delio ag anghenion pobl sydd angen cymorth o ran lle i fyw “yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, nid yn San Steffan,” yn ôl cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Joy Kent.

Mae’n edrych ymlaen, meddai, i weld y grymoedd yn cael eu defnyddio i gynorthwyo “cymaint o bobl â phosibl i ddod o hyd i gartref a’i gadw, a byw’r bywyd y maen nhw’n ei ddymuno.”

Dywedodd Keith Edwards, Prif Weithredwr y Sefydliad Tai Siartredig, fod datganoli’r grymoedd yn “newyddion ardderchog.”

“O ystyried maint yr her rydyn ni’n ei hwynebu o ran tai, mae hyn yn gyfle gwych i ddatblygu atebion i broblemau yng Nghymru a chreu system dai sy’n addas i’w diben yn y dyfodol.”