Mae rheolwr-gyfarwyddwr y Seintiau Newydd, Mike Harris wedi dweud bod cyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn wych i’r clwb.
Fe fydd y clwb Cymreig yn wynebu Anderlecht yn rownd nesaf prif gystadleuaeth Ewrop yn dilyn eu buddugoliaeth 4-0 yn erbyn y Bohemians nos Fawrth.
“Dydw i ddim yn siŵr eto faint o hwb ariannol fydd hyn i’r clwb, ond yn nhermau pêl droed, mae’n werth pot o aur,” meddai Mike Harris ar wefan swyddogol y clwb.
Mae cyfarwyddwr y clwb, yn credu bod y fuddugoliaeth yn profi bod Uwch Gynghrair Cymru wedi gwella yn sylweddol yn ystod blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r gynghrair wedi datblygu dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf,” meddai Mike Harris.
“Rydach chi’n gallu gweld pam fod chwaraewyr fel Lee Trundle yn dod i Uwch Gynghrair Cymru yn hytrach na chwarae i glybiau yn adrannau is Lloegr.”
Pe bai’r Seintiau Newydd yn curo Anderlecht fe fyddan nhw’n mynd yn eu blaenau i’r rownd ragbrofol olaf cyn y grwpiau.
Ond pe baen nhw’n colli fe fydd y clwb Cymreig yn cystadlu yn rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Mae llwyddiant y Seintiau Newydd wedi sicrhau tua €500,000 i’r clwb yn barod ond fe allai gynyddu eto.