Mae rheolwr academi Undeb Rygbi Cymru, Phil Davies wedi ymuno gyda Chaerwrangon fel hyfforddwr blaenwyr newydd y clwb.

Phil Davies oedd prif hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, a bu’r tîm yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn yr Ariannin yn ddiweddar.

Fe fydd yn ymuno gyda Chaerwrangon ac yn cydweithio gyda phrif hyfforddwr y clwb, Richard Hill, ym mis Awst ar ôl i Undeb Rygbi Cymru ddod i gytundeb gyda’r clwb o Loegr.

“Mae wedi bod yn benderfyniad anodd i adael Undeb Rygbi Cymru ac rwy’n gobeithio hyfforddi Cymru yn y dyfodol,” meddai Phil Davies, sy’n gyn reolwr ar y Scarlets.

“Felly rwy’n ddiolchgar iawn i Gaerwrangon am roi’r cyfle i mi ddychwelyd i hyfforddi proffesiynol a hefyd i Undeb Rygbi am ganiatáu i mi wneud hynny.”

Dywedodd Pennaeth Datblygiad Rygbi Undeb Rygbi Cymru, Joe Lydon ei fod yn sicr bydd Phil Davies yn llwyddiannus yn ei rôl newydd.

“Rwy’n ffyddiog y bydd y strwythur a systemau mae Phil wedi helpu i’w gosod yn eu lle yn gwneud lles i’r gêm yng Nghymru am flynyddoedd i ddod,” nododd Joe Lydon.