Hyfforddwr Caerdydd, Dave Jones yw’r ffefryn newydd i olynu Roy Hodgson fel rheolwr Fulham, ar ôl i Martin Jol gadarnhau ei fod am aros gydag Ajax.

Cyn rheolwr Tottenham oedd prif darged Fulham ac er gwaetha’r ffaith bod y ddau glwb yn cynnal trafodaethau, mae’r Iseldirwr wedi penderfynu aros gyda chlwb Amsterdam.

“Fe ddywedodd Ajax nad oedden nhw am i mi adael. Dw i ddim yn credu galla’i adael Ajax ar hyn o bryd,” meddai Martin Jol.
Mae hynny’n golygu y gallai Fulham ddechrau trafodaethau gyda’u ail ffefryn am y swydd, sef rheolwr Caerdydd.

Yn ôl y bwcis Dave Jones yw’r ffefryn newydd i gymryd y swydd ar ôl i nifer fawr o bobl fetio ar reolwr yr Adar Glas.

Gyda thymor newydd y Bencampwriaeth yn cychwyn mewn llai na thair wythnos fe fyddai’n ergyd fawr i Gaerdydd pe baen nhw’n colli Dave Jones.