Fe fydd yna is-etholiad arall ym Mlaenau Ffestiniog ar ôl i un arall o gynghorwyr Llais Gwynedd ymddiswyddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd heddiw bod y Cynghorydd Dafydd Lloyd Hughes wedi ymddiswyddo.

“Gallwn gadarnhau fod y Cyngor wedi derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan y Cynghorydd Dafydd Lloyd Hughes,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r cynghorydd yn nodi yn ei lythyr mai am resymau personol y mae’n ymddiswyddo.

“Bydd trefniadau yn cael eu gwneud i gynnal is-etholiad ar gyfer ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.”

Yr wythnos diwethaf daliodd Llais Gwynedd ei gafael ar un arall o seddi Blaenau Ffestiniog.

Enillodd Richard Lloyd Jones hen sedd Gwilym Euros Roberts, cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar ar ôl pledio’n euog i niwed corfforol difrifol ym mis Ebrill.