Mae cronfa arian ryngwladol yr IMF wedi dweud y bydd dyled £176 miliwn Haiti yn cael ei ddileu.
Bydd y wlad hefyd yn cael benthyciad arall o £39 miliwn ar gyfer gwaith ailadeiladu ar ôl y daeargryn yno ddechrau’r flwyddyn.
Fe fuodd tua 300,000 o bobol farw pan darodd daeargryn yr ynys i’r dwyrain o Ciwba ar 12 Ionawr eleni.
Cafodd 1.6 miliwn o bobol eu gwneud yn ddigartref gan y drychineb wrth i isadeiledd y wlad chwalu.
Yn ôl yr IMF, mae dileu’r ddyled yn rhan o gynllun hirdymor ar gyfer ailadeiladu, a ddylai annog cyfraniadau dyngarol ychwanegol i Haiti.
Mae’n rhaid i gyfranwyr weithredu ar eu haddewidion, meddai pennaeth y gronfa, Dominique Strauss-Kahn, er mwyn “cyflymu’r gwaith ailadeiladu,” “gwella safonau byw,” ac er mwyn “lleddfu tensiynau cymdeithasol” yno.
Bydd y benthyciad £39 miliwn yn dod dros gyfnod o dair blynedd a ni fydd llog arno tan 2011.