Mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu torri nôl hyd at 25% yn ystod y pedair blynedd nesaf, a fyddai’n golygu colli hyd at 50 o swyddi.

Fydd yna neb ychwanegol yn cael eu cyflogi os nad yw hynny’n ”gwbl anorfod” a bydd yr angen i lenwi swyddi staff sy’n gadael yn wirfoddol yn cael ei “asesu’n ofalus” yn ôl y Comisiwn.

Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer y Cynulliad.

Mae’n bosib y bydd gweithwyr mewnol ac allanol yn cael eu heffeithio, medden nhw.

Mae’r amcanion yma’n ran o strategaeth er mwyn mynd i’r afael â unrhyw doriadau yng nghyllideb y Comisiwn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 24 Medi.

Y nod fydd “gwarchod gwasanaethau craidd y Cynulliad” meddai’r comisiwn.

‘Cywir’

Mae’r Prif Weithredwr, Claire Clancy, wedi dweud mai’r peth cywir i’r Comisiwn ei wneud yw “dangos arweiniad yn y dyddiau ariannol anodd yma.”

“Rwy’n hyderus y gall ein tîm ni wynebu’r her yma,” meddai.

“Maent yn hynod o ffyddlon yn eu hymrwymiad i’r Cynulliad, a chan ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau, gallwn sicrhau arbedion wrth gynnal gwasanaethau’r Cynulliad yn effeithiol”.