Mae diffoddwr tân rhan amser sy’n dringo’r Wyddfa unwaith yr wythnos – ac yn gobeithio rhedeg yn y ras – wedi ei enwebu am wobr am ei waith elusen.

Mae cwmni adeiladu Travis Perkins wedi enwebu Andrew Craig, 43 o Gaernarfon, sy’n gweithio yno fel rheolwr, am y wobr yn noson gala’r cwmni yn Stratford upon Avon ddydd Mawrth nesaf.

Mae o wedi cerdded i fyny’r Wyddfa bob wythnos ers dechrau’r flwyddyn ac yn bwriadu parhau i wneud hynny tan ddiwedd y flwyddyn i gasglu arian i Ymgyrch Canser y Fron.

Yr wythnos yma fe fydd yn dringo’r mynydd am y 33ain tro ac yn bwriadu cyrraedd 52 erbyn diwedd y flwyddyn.
Hefyd, dros y penwythnos, fe fydd yn cymryd rhan yn ras y wyddfa “am y tro cyntaf”, meddai wrth Golwg 360.

“Ro’ ni’n eistedd yn y tŷ cyn y flwyddyn newydd yn cael cyri hefo’r wraig ac fe wnes i ofyn iddi am syniad i gasglu arian i elusen ac fe wnaeth hi gynnig hyn,” meddai.

“Ro’ ni’n meddwl ei fod o’n syniad da iawn! Er fy mod i wedi ffeindio wedyn mai jôc oedd o i fod,” meddai, cyn dweud bod ei wraig, Lynne wedi cyd-gerdded gydag ef “tua phedair gwaith”.

Colli

Dywedodd ei fod o wedi colli perthnasau a ffrindiau agos i ganser y fron ac mae dyna sydd wedi sbarduno ei ymdrech i godi arian.

“Mae’r achos yn agos at galonnau’r teulu i gyd,” meddai.

Mae wedi casglu £4,819 yn barod drwy ymlwybro i fyny’r Wyddfa ym mhob tywydd – er mai £1,000 o bunnoedd oedd y “targed gwreiddiol”.

Y targed erbyn hyn ydi £7,500 ond mae’n “gobeithio cyrraedd ffigyrau dwbl” erbyn mis Rhagfyr nesaf.

“Mae pobl yn gofyn yn aml os ydi o’n boring. Ond, dydi o ddim. Mae’r golygfeydd yn brilliant ac mae pobl yn cerdded hefo fi yn aml. Dw i’n mynd i fyny gan ddefnyddio gwahanol lwybrau bob wythnos – i fy nghadw i’n gall.

“Dw i’n lwcus fy mod i’n iach ac yn gallu gwneud hyn. Mae pobl sâl yn mynd drwy uffern,” meddai cyn dweud ei fod o “wedi synnu” faint o bobl sydd wedi’i gefnogi ac yn “dymuno lwc iddo yn y stryd”.

Yr her nesaf

Er nad oes dim wedi’i gadarnhau eto, mae gan yr anturiwr syniadau ynglŷn â gosod sialens ar gyfer y flwyddyn nesaf yn barod.

Ymhlith y syniadau mae cerdded holl stepiau castell Caernarfon unwaith yr wythnos.

Mae modd dilyn ei daith Wyddfa a cyfrannu yma.