Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno i dalu eu dyledion am Stadiwm y Mileniwm yn gyflymach na’r bwriad gwreiddiol.
Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi benthyg dros £60m i helpu i dalu am stadiwm genedlaethol Cymru.
Ond mae’r trefniant newydd gyda bancwyr Barclays Corporate yn golygu bod y ddyled wedi cael ei lleihau eisoes o £32m i £25m. Mae’r undeb yn gobeithio talu’r swm cyfan yn ôl erbyn 2021.
Fe fydd y cytundeb yn galluogi Undeb Rygbi Cymru i dalu swm mawr o’r arian ‘nôl pan fyddan nhw wedi gwneud elw mawr.
“Yn yr hir dymor fe fydd hyn yn rhoi’r gallu i ni reoli maint y ddyled a’i thalu’n ôl yn gyflymach,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.