Mae Dave Jones yn ail ffefryn i olynnu Roy Hodgson yn rheolwr ar Fulham ar ôl adroddiadau y bydd Martin Jol yn aros gydag Ajax.

Cyn reolwr Tottenham yw’r ffefryn o hyd ac mae Fulham yn gobeithio cynnal trafodaethau pellach gydag e.

Pe na bai Fulham yn dod i gytundeb gydag Ajax, fe allai’r clwb droi at reolwr Caerdydd. Mae Sven Goran Erkisson a Gianfranco Zola hefyd wedi eu cysylltu gyda’r swydd.

Mae cwmnïau gamblo yn dweud bod lot o arian wedi ei fetio ar Dave Jones i gymryd yr awenau yn Craven Cottage.

Dyw Fulham ddim yn glwb sy’n gwario arian mawr ar chwaraewyr newydd.

Mae’n bosib y bydd y gwaith da mae Dave Jones wedi ei wneud dan amgylchiadau anodd yng Nghaerdydd yn mynd o’i blaid.