Bydd trosi gwefan Llywodraeth ‘Your Freddom’ i’r Gymraeg yn rhy ddrud, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Prydeinig, Nick Clegg.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan yr AS Jonathan Edwards ynglŷn â’r wefan a gafodd ei chreu gan y llywodraeth glymblaid yn San Steffan er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd gynnig eu syniadau eu hunain i wleidyddion.
“Nod gwefan Your Freedom yw caniatáu i gymaint o bobl â phosibl gyfrannu eu syniadau a sylwadau mewn modd sy’n effeithiol o ran cost,” meddai Nick Clegg.
“Fe gwblhawyd asesiad ynglŷn â chyfieithu’r wefan i ieithoedd eraill ond roedd yr holl opsiynau a gafodd eu hystyried yn rhy ddrud.”
Dywedodd prif swyddog y wasg ar ran y Dirprwy Brif Weinidog nad ydyn nhw’n cyfieithu gwefannau llywodraeth San Steffan i’r Gymraeg.
Cwestiynau nesaf Plaid
Cadarrnhaodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth Golwg360 y bydden nhw’n parhau i holi’r Diprwy Brif Weinidog ynglŷn â throsi’r wefan.
Fe fyddan nhw’n ei holi ynglŷn â chost y wefan a’r pris a gynigwyd iddynt am gyfieithu’r wefan i’r Gymraeg a Gaeleg yr Alban.
Maen nhw hefyd yn galw am y rhesymau a gafodd eu rhoi am beidio â’i chyfieithu.
‘Addurn’
“Nid ‘iaith arall’ yw’r Gymraeg yng Nghymru, ond un o ieithoedd ein gwlad,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg wrth Golwg360.
“Dylai unrhyw beth sy’n cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, ac sy’n cael ei hysbysebu yng Nghymru, fod yn ddwyieithog.
“Rydym yn gobeithio y bydd Mesur Iaith cryf sy’n rhoi statws swyddogol clir i’r iaith Gymraeg yn golygu na fydd hyn yn digwydd eto.
“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd a Rhyddfrydol yn amlwg yn trin ieithoedd eraill fel addurn ychwanegol.”