Fe ddyblodd yr achosion o drais yn y cartref yng ngogledd Cymru ar y diwrnod y cafodd tîm pêl-droed Lloegr eu bwrw allan o Gwpan y Byd.
Dywedodd yr heddlu fod yna 45 adroddiad o drais ar 27 Mehefin o’i gymharu â 25 ar yr un diwrnod y flwyddyn ddiwethaf.
Dyna’r diwrnod pan gollodd tîm pêl-droed Lloegr o 4-1 yn erbyn yr Almaen yn y gystadleuaeth yn Ne Affrica.
Ymgyrch
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am drais yn y cartref yn ystod y gystadleuaeth – mae’r ystadegau’n dangos bod mwy o achosion yn ystod digwyddiadau mawr o’r fath.
Er hynny, yn gyffredinol, roedd nifer yr achosion yn ystod y Cwpan wedi cwympo o’i gymharu gyda’r un cyfnod yn 2009.
Tra bod Lloegr yn y gystadleuaeth, roedd yna 277 adroddiad am drais yn y cartref, o’i gymharu â 293 dros yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.