Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Conwy wedi ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o dreisio.
Ymddangosodd Byron Davies, 52, o flaen Llys Ynadon Llandudno ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon yr wythnos nesaf.
Mae’n gwadu’r cyhuddiad ei fod wedi treisio gwraig yn Llandudno ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Cafodd ei arestio ym mis Mawrth a’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol. Mae bellach yn byw yn Lloegr.