Mae cleifion sy’n disgwyl am drawsblaniad aren yn wynebu ‘loteri cod post’, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr astudiaeth gan yr elusen UK Renal Registry mae yna amrywiaeth mawr yn nifer y bobol sydd ar y rhestr aros am organau ledled Prydain.

Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn yr amser y mae’n ei gymryd i gleifion gael mynd ar y rhestr yn y lle cyntaf, yn ogystal â’r amser y maen nhw’n aros am drawsblaniad.

Mae oedolion yn disgwyl am 841 diwrnod ar gyfartaledd am drawsblaniad, ond roedd nifer yn marw cyn cael organ. Mae plant, sy’n cael blaenoriaeth, yn aros 164 diwrnod ar gyfartaledd.

Ar hyn o bryd mae 6,865 o oedolion a 111 o blant ar y rhestr aros am drawsblaniad aren yn y Deyrnas Unedig.

Amrywiadau

Yn ôl yr astudiaeth, roedd amrywiadau oed amlwg yn y bobol oedd ar y rhestr aros.

Roedd oedolion ifanc rhwng 18 a 29 yn fwy tebygol o fod ar y rhestr ac, wrth i’r cleifion fynd yn hŷn, roedd llai ohonyn nhw ar y rhestr.

Roedd pobol o leiafrifoedd ethnig hefyd yn llai tebygol o fynd ar y rhestr yn ogystal â phobol gyda chlefyd siwgr.