Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi defnyddio’r adroddiad mewnol ar reolaeth ariannol o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth i ymosod yn ffyrnig ar y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

Yn ôl llefarydd y blaid yn y maes, roedd yr adroddiad yn dangos bod “anhrefn ariannol” yn yr Adran. Roedd hi wedi ei rheoli’n wael trwy gydol ei gyfnod ef, meddai Jenny Randerson.

“Mae’r adroddiad damniol yma’n un arall mewn rhestr hir o fethiannau ac anallu’r Gweinidog ac mae’n rhaid codi cwestiynau difrifol ynglŷn â rheolaeth yr Adran yma,” meddai.

“Yn ystod y tair blynedd diwetha’, yr un adran a ddylai fod ar ei gorau oedd Economi a Thrafnidiaeth. Yn anffodus o ran economi Cymru, doedd hynny ddim yn wir.”

Roedd hi hefyd yn condemnio Llywodraeth Llafur-Plaid Cymru am geisio rhwystro’r wybodaeth rhag cael ei chyhoeddi ac am wrthod nifer o’r argymhellion.

‘Wedi gwella’

Ynghynt heddiw, fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones bod gwelliannau mawr wedi eu gwneud ers yr adroddiad, a oedd yn delio â’r cyfnod hyd at fis Ebrill 2009.

Ddoe, fe gyhoeddodd ad-drefnu sylweddol o fewn yr adran, gan gynnwys colli hyd at 300 o swyddi.

Y bore yma, fe ddywedodd y cyn weinidog yn yr adran, Andrew Davies, mai problem gydag uwch weision sifil oedd hon, nid problem Ieuan Wyn Jones.

Mae’r gwrthbleidiau – y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn arbennig – wedi bod yn targedu’r Dirprwy Brif Weinidog ers tro.


Taro’r Techniums – cynnwys yr Adroddiad

Mae adroddiad mewnol Archwilydd y Llywodraeth yn dangos fod naw o’r argymhellion sylfaenol a wnaeth i’r Adran Economi a Thrafnidiaeth yn ymwneud â chanolfannau Technium.

Y rhain oedd i fod i arwain y gwaith o ddatblygu busnesau newydd blaengar ond, yn ôl Pennaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth, roedd yna “bryderon sylweddol” ynglŷn â’r ffordd y cafodd ei reoli a’i werth am arian.

Roedd yr adroddiadau’n dangos gwendidau lle’r oedd “peryg arwyddocaol o golli arian, o dwyll, o weithredu anaddas, o werth gwael am arian neu o fethu â chyflawni”.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi eisoes bod adolygiad ar droed i waith y Techniums ac y bydd penderfyniad ar eu dyfodol yn yr hydref.

Roedd yna bryder arbennig am y Technium Peirianneg Perfformiad yn Llanelli, am y dull o fonitro gwaith y canolfannau ac am gadw ffigurau ynglŷn â niferoedd y cwmnïau ynddyn nhw.

Yn gyfan gwbl, roedd y Pennaeth Archwilio, Jamie Garden, wedi gwneud 145 o argymhellion arwyddocaol neu sylfaenol ynglŷn â gwaith yr adran ond roedd 31 o’r rheiny wedi cael eu gwrthod. Dim ond 129 o argymhellion oedd yn llai pwysig.

Yn gyffredinol, meddai, roedd tîm newydd o reolwyr sydd wedi eu penodi yn derbyn ei bryderon am y Techniums.