Mae pobol yn clirio ar ôl i’r gwasanaethau achub orfod ymateb i fygythiad llifogydd, yn enwedig yn ardaloedd Wrecsam ac Abertawe.

Ardaloedd Y Gellifedw a Glais ar gyrion Abertawe a gafodd eu heffeithio waethaf a dywedodd un o weithwyr tafarn The Old Y Glais Inn bod strydoedd cyfagos wedi bod o dan y dŵr.

“Daeth nant i lawr y mynydd a difrodi tŷ ar y gwaelod ger y swyddfa bost gan dynnu rhan o’r wal i lawr,” meddai.

Bu’n rhaid achub hen wraig ar Ffordd Graig Ola yn Y Glais oedd yn sownd yn ei thŷ oherwydd y dŵr, meddai llefarydd ar ran y gwasanaethau brys.

Roedd llifogydd hefyd ar Stryd y Gellifedw a bu’n rhaid i wasanaethau tân Treforys glirio draen oedd wedi’i flocio yno.

Wrecsam hefyd

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhwthau wedi derbyn 30 o alwadau ynglŷn â llifogydd trwm yn ystod y dydd ddoe.

Fe ddechreuodd y galwadau am 12.41pm ac roedd y rhan fwyaf yn ardal Wrecsam, Llai a Johnstown rhwng 5pm a 6pm.

Ffordd Warrenwood yn y dref gafodd ei heffeithio waethaf a bu’n rhaid pwmpio dŵr o sawl tŷ.

Does dim rhybuddion tywydd llym yng Nghymru ar gyfer gweddill yr wythnos.