Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau bod eu chwaraewr rheng ôl, Dan Lydiate, wedi arwyddo estyniad o ddwy flynedd ar ei gytundeb.
Mae’n golygu y bydd y Cymro ifanc yn aros gyda’r rhanbarth tan o leiaf ddiwedd tymor 2012-13.
“Dw i wrth fy modd cael arwyddo cytundeb newydd. Fe gawson ni dymor da iawn llynedd,” meddai.
“Roedd gan rai clybiau eraill ddiddordeb yno’ i ond roedd gen i flwyddyn ar ôl ar fy nghytundeb o hyd ac roeddwn ni eisiau aros fan hyn.”
Gofalu
“Mae’r Dreigiau wedi gofalu amdana’ i ers y dechrau,” meddai’r blaenasgellwr. “Dw i wedi dod drwy’r academi ac wedi chwarae gyda nifer o’r bechgyn yma ers amser hir.
“Roedden nhw’n gefn i mi pan wnes i anafu fy ngwddf. Roeddwn i mas am bron flwyddyn ond roedden nhw’n cadw mewn cysylltiad.”
Ar hyn o bryd mae Dan Lydiate yn gwella o anaf i’w bigwrn ac fe gollodd daith Cymru i Seland Newydd.
Mae’n disgwyl y bydd o’n ôl yn chwarae erbyn dechrau’r tymor newydd.