Mae cyn asgellwr Cymru a’r Llewod, Dafydd James, yn ystyried ymuno gyda’r Crusaders yn y Super League rygbi 13.
Fe enillodd James 48 cap dros Gymru yn ogystal â thri dros y Llewod yn ystod eu taith i Awstralia yn 2001.
Cafodd yr asgellwr ei ryddhau gan y Gleision ddiwedd y tymor diwetha’, ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg gyda chlwb Sale yn Lloegr.
“Dw i’n dal i fod yn ffit ac yn llawn brwdfrydedd ac yn edrych ymlaen at barhau gyda fy ngyrfa rygbi am dymor neu ddau arall,” meddai James.
Ystyried
“Dw i’n ystyried pob cyfle, gan gynnwys y Crusaders, ond fe fyddai’n well gen i barhau gyda fy ngyrfa yn rygbi’r undeb,” meddai wedyn.
“Fe ges i amser rhwystredig a siomedig y tymor diwethaf. Ges i ddim cyfle yng Nghaerdydd a phan symudais i Sale roedd hi’n frwydr barhaol i aros yn yr Uwch Gynghrair.”
Fe allai Dafydd James ymuno gyda’i hen gyd-chwaraewr gyda’r Gleision a Chymru, Gareth Thomas, sydd eisoes wedi symud i’r Super League gyda’r Crusaders.