Mae’r heddlu wedi cadarnhau wrth Golwg360 eu bod nhw wedi ail agor rhan o’r A470 ar ôl damwain ddifrifol neithiwr.
Ynghynt y bore yma, roedd y ffordd wedi ei chau gan greu trafferthion i bobol a oedd ar eu ffordd o’r De-ddwyrain i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am chwarter wedi deg neithiwr pan aethpwyd ag un dyn ac un ddynes i Ysbyty Merthyr.
Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain ond fe gafodd y ffordd rhwng Libanus a’r A4059 ei chau am 5am bore heddiw a’i hail agor am chwarter i ddeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod disgwyl “peth oedi o hyd” ar y ffordd.
Dyma’r brif ffordd o’r De-ddwyrain i’r Sioe.