Fe allai Prydain ddechrau tynnu milwyr yn ôl o Afghanistan y flwyddyn nesaf, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Yn dilyn ei gyfarfod cyntaf gyda’r Arlywydd Barack Obama yn Washington, dywedodd David Cameron y gallai’r 9,500 o filwyr sydd gan Brydain yn y wlad ddechrau gadael yn gynt na’r disgwyl.

Mae’r ddau arweinydd dan bwysau cynyddol i ddod â’r milwyr adref, wrth i’r trais yn y wlad waethygu o flwyddyn i flwyddyn.

Fe fyddai hynny’n dibynnu ar yr amgylchiadau yn Afghanistan, meddai. Mae eisoes wedi dweud y dylai milwyr Prydain adael y wlad erbyn 2015.

Yr union eiriau

Roedd holwr ar Radio 5 Live wedi gofyn a allai Prydain efelychu strategaeth yr Unol Daleithiau, sy’n gobeithio dechrau tynnu milwyr yn ôl y flwyddyn nesaf.

“Ydi, mae’n bosib, ond fe fydd hynny’n dibynnu ar yr amgylchiadau yn y wlad,” atebodd David Cameron.

“Y cyflyma’ yn y byd y bydd hi’n bosib trosglwyddo rhanbarthau i ddwylo Llywodraeth Afghanistan, y cyflyma’ y bydd hi’n bosib mynd adref.

“Dydw i ddim eisiau codi gobeithion ynglŷn â hynny. Mae’n dibynnu yn hollol ar ba mor gyflym y mae diogelwch yn gwella yn y wlad.”

Ond ychwanegodd na fyddai gan Brydain “unrhyw filwyr” yn Afghanistan erbyn 2015. “Mae’n bwysig i bobol wybod na fyddwn ni yno am byth.”