Fe gadarnhaodd yr heddlu bod cerbyd ‘pick up’ wedi gadael y ffordd a glanio ger cledrau rheilffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn, ar ôl gwrthdrawiad ddoe.
Bu’n rhaid atal y gwasanaethau trên a chau priffordd yr A55 i’r dwyrain er mwyn symud y cerbyd.
Roedd dau gerbyd arall yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 12:30pm. Roedd hi wedi dau o’r gloch pan ail agorwyd y ffordd yn llwyr.
Aethpwyd â dyn 19 oed gydag anaf i’w gefn, a dyn 33 oed oedd yn dioddef o fân anafiadau, i Ysbyty Glan Clwyd.
Cafodd dau glaf arall oedd yn dioddef o fân anafiadau eu cymryd i Ysbyty Cyffredinol Llandudno.