Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o ddwyn llofnod y gofodwr Neil Armstrong.

Union 41 mlynedd i’r diwrnod ers iddo gerdded ar y lleuad, fe gawson nhw eu cyhuddo o ddwyn un o ddogfennau swyddogol y llywodraeth, a oedd wedi ei harwyddo gan Neil Armstrong, ac o geisio ei gwerthu.

Mae’r dyn cyntaf ar y lleuad wedi bod yn amharod iawn i arwyddo’i enw i neb yn ddiweddar ar ôl sylweddoli bod y rhan fwyaf o’i lofnodion yn cael eu gwerthu yn syth ar safleoedd fel eBay.

Hedfan

Yn ôl yr awdurdodau ffederal, roedd Thomas Chapman, 50 oed, yn gweithio ym Maes Awyr Logan yn Boston ar 13 Mawrth pan hedfanodd Neil Armstrong i mewn a llenwi ac arwyddo ffurflen yn y swyddfa dollau

Wrth i’r gofodwr 79 oed adael, roedd Thomas Chapman wedi ei helpu i gario ei fagiau. Cymerodd y ffurflen dollau gan Neil Armstrong a mynd â hi adref ar ddiwedd ei shifft.

Y diwrnod wedyn fe aeth â’r ddogfen at ei gyfaill Paul Brickman ac yna at gwmni sy’n arbenigo mewn gwerthu llofnodion a dogfennau hanesyddol mewn arwerthiannau.

Roedd y bidio wedi cyrraedd $1,026 cyn i rywun dynnu sylw at yr ocsiwn a chodi amheuon ynglŷn â’r hawl i werthu un o ddogfennau swyddogol y llywodraeth.