Mae achosion o haint HIV ymysg oedolion dros 50 mlwydd oed wedi mwy na dyblu yn ystod y saith mlynedd diwethaf.
Er y gallai fod yn newyddion da trwy awgrymu bod pobol gyda HIV yn byw yn hwy mae arbenigwyr yn dweud hefyd bod rhagor o bobol dros 50 oed yn cael eu heintio o’r newydd.
Cynyddodd nifer yr achosion newydd ymysg pobol dros 50 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o 299 y flwyddyn i 710 rhwng 2000 a 2009, yn ôl yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.
Datgelu heddiw
Cafodd casgliadau’r ymchwil eu datgelu heddiw mewn Cynhadledd AIDS ryngwladol yn Fienna.
Roedd hanner y bobol hŷn wedi eu diagnosio’n hwyr, gan gynyddu’r risg o farwolaeth gynnar o ganlyniad i Aids. Roedd tri chwarter wedi marw o fewn blwyddyn.
Yn ôl yr ystadegau mae pobol dros 50 oed yn fwy tebygol na phobol iau o gael eu heintio drwy ryw gyda dynion.
‘Hanner’
“Er mai dim ond 8% o’r holl bobol sy’n cael eu diagnosio gyda HIV sydd dros 50 oed, mae’r cynnydd mewn achosion yn dangos fod rhan i bawb fod yn ofalus,” meddai Valerie Delpech, pennaeth HIV yn yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.
“Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd profion HIV – beth bynnag eich oed,” meddai Ruth Smith, gwyddonydd HIV yng Nghanolfan Heintiau’r Asiantaeth Diogelu Iechyd.
“Yr unig ffordd o sicrhau na fyddwch chi’n cael eich heintio yw defnyddio condom gyda’ch holl bartneriaid newydd neu achlysurol.”