Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud nad ydi o’n difaru y penderfyniad dadleuol i ryddhau bomiwr Lockerbie o’r carchar.

Dywedodd fod ei weinyddiaeth wedi ymateb i’r dystiolaeth gynnigwyd iddyn nhw ar y pryd, sef bod gan Abdelbaset al-Megrahi dair mis yn unig i fyw.

Mae rhyddhau bomiwr Lockerbie wedi bod yn bwnc llosg yn ystod taith cyntaf y Prif Weinidog David Cameron i Washington.

“Rhaid cymryd penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth ar y pryd ac fe wnaethon ni ymddiried yn y dystiolaeth,” meddai Alex Salmond ar raglen Today Radio 4.

“Dyw hi ddim yn beth newydd bod pobol sy’n cael ei ryddhau ar sail tosturi yn fyw yn hirach na’r tri mis penodedig.”

Abdelbaset al-Megrahi, o Libya, yw’r unig ddyn sydd erioed wedi ei gael yn euog o’r ymosodiad laddodd 270 o bobol ar awyren Pan Am 103 ar 21 Rhagfyr 1988.

Cafodd ei ryddhau o garchar yn yr Alban ym mis Awst ond mae o dal yn byw gyda’i deulu ym mhrifddinas Libya, Tripoli.

Beirniadodd Alex Salmond y cyn Brif Weinidog, Tony Blair am y cytundeb gyda Libya i drosglwyddo carcharorion yn 2007, sydd wedi arwain at amheuon ynglŷn a “chytundebau yn yr anialwch”.

“Dyw Llywodraeth yr Alban heb ddod i unrhyw gytundeb gyda BP, yn ysgrifenedig na chwaith ar lafar,” meddai.

“Dydyn nhw heb lobio Llywodraeth yr Alban, a rydan ni wedi ei gwneud hi’n amlwg yn y gorffennol nad ydan ni’n cefnogi’r cytundeb trosglwyddo carcharorion.

“Rydw i’n ymwybodol o’r teimladau angerddol a’r poendod ynglŷn â hyn. Ond roedd rhai o’r teuluoedd Prydeinig yn cefnogi rhyddhau Mr Megrahi.”